BEICIAU I'W HURIO
Mae gennym amrywiaeth o feiciau i'w llogi. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth, neu i fwcio.
Gallwn ddod a beiciau atoch chi, a'u casglu wedi i chi orffen seiclo. Mae'r gwasanaeth yma'n rhad ac am ddim o fewn 10 milltir i Crys Melyn Cycling (yn cynnwys Aberystwyth, Borth, Pontarfynach, Tregaron, Llanrhystud); tu hwnt i 10 milltir, bydd tâl bach ychwanegol yn cael ei godi.
Beiciau Hybrid - £20 y dydd
Mae ein beiciau hybrid Trek yn gadarn, yn ysgafn ac yn gyfforddus. Mae ganddynt ddigon o geriau a breciau disg, ac felly maent yn addas ar gyfer amrywiaeth o dirweddau.
E-Feiciau - £45 y dydd
Mae E-feiciau Trek yn darparu pedalau cynorthwyol, sy'n golygu eu bod yn cymryd y straen allan o ddringo mynydd neu'n eich galluogi i gadw i fyny gydag aelodau cyflymach eich grŵp. Mae iddynt ystod eang o geriau a breciau disg.
Beiciau Plant - £15 y dydd
Beiciau â fframiau alwminiwm ysgafn, a breciau pwerus a pwrpasol ar gyfer dwylo llai.
'Tag-along' - £10 y dydd
Mae 'tag-along' yn berffaith i blant 4-9 oed nad ydynt yn hyderus ar eu beic eu hunain, neu ddim cweit yn gallu cwblhau taith feicio hirach. Mae iddo system ymgysylltu gadarn er mwyn ei dynnu'n hyderus.
Trelar - £10 y dydd
Mae trelar yn gallu cario dau blentyn bach. Wedi'i adeiladu mewn alwminiwm ysgafn ac wedi'i atodi'n gadarn, mae'n caniatáu i'r teulu cyfan fwynhau taith feicio.
Mae'r canlynol yn gynwysedig gyda unrhyw feic sy'n cael ei hurio:
- Helmed
- 'Panier' gwrth-ddwr Ortlieb
- Pwmp beic
- Tiwbiau mewnol sbâr ac offer trwsio
- Clo
Cewch ein telerau ac amodau ar gyfer hurio beiciau yma.