SEICLO I'R TEULU: ARCHWILIO'R YSTWYTH
Ymunwch â ni am ddiwrnod o seiclo ar hyd yr afon Ystyth, ac archwilio'i glannau wrth iddi wneud ei ffordd tuag at y môr!
Bydd Archwilwyr yr Ystwyth yn dysgu am yr afon a'r anifeiliaid sy'n byw ar ei glannau. Cewch wybod sut i adnabod gwahanol goed a phlanhigion, adeiladu a hwylio eich cwch eich hun, a chael cynnig ar ein helfa sborion. A wedi gwneud yr holl bethau yna, mi fyddwch chi'n barod am bicnic blasus yn y goedwig.
Y llwybr
Mae Llwybr Ystwyth yn cysylltu tref farchnad Tregaron gyda thref glan môr Aberystwyth ar arfordir Gorllewin Cymru, ac yn dilyn rhannau o hen linell rheilffordd y Great Western. Mi fyddwn yn seiclo o Drawscoed lle byddwn ni'n ymuno â'r llwybr, a dilyn yr afon wrth iddi wyro ei ffordd yn ôl tuag at y môr.
Y seiclo
Byddwn yn seicio tua 8 milltir ar hyd llwybr gwastad yn bennaf, ac felly sy'n cynnig seicio hawdd i deuluoedd. Dylai plant sy'n defnyddio eu beiciau eu hunain fod yn feicwyr hyderus, ond mae'r llwybr hefyd yn addas ar gyfer 'tag-along' a threlars (mae gennym rai i'w llogi os oes angen). Taith hamddenol fydd hon, gyda digon o weithgareddau a lluniaeth ar y ffordd.
Mae'r daith yma'n ddelfrydol ar gyfer plant hyd at 11 oed (rhaid i blant o dan 8 oed gael oedolyn gyda nhw).
Math o daith: Tywysiedig
Hyd: 1 diwrnod (9.15yb tan 3yp)
Gradd anhawster: Hawdd
Pris: Plentyn £35, Oedolyn £25, Teulu (2 oedolyn, 2 blentyn) £100
LAWRLWYTHO MANYLION Y DAITH
Dyddiad a pris
Mae Archwilwyr yr Ystwyth yn rhedeg bob dydd Mercher yn ystod gwyliau ysgol. Dyma'r dyddiadau nesaf:
25 Gorffennaf 2018
1 Awst 2018
8 Awst 2018
15 Awst 2018
22 Awst 2018
29 Awst 2018
Gallwn drefnu dyddiadau ychwanegol i grwpiau - cysylltwch i drafod neu ffoniwch Scott ar 07919 358670.
Pris: Plentyn £35, Oedolyn £25, Teulu (2 oedolyn, 2 blentyn) £100
(rhaid i bob plentyn o dan 8 oed seiclo gyda oedolyn)
Teithlen
Dechrau/diwedd y daith: Gorsaf Bad Achub Aberystwyth, Yr Harbwr, South Marine Terrace, Aberystwyth SY23 1JY.
Fe fyddwn ni'n cwrdd am 9.30yb, er mwyn eich trosglwyddo i Trawscoed lle fyddwn ni'n ymuno a'r Llwybr Ystwyth.
Yna, mi fyddwn yn dilyn yr afon am ryw 8 milltir, wrth iddi weithio'i ffordd tuag at y môr.
Mi fyddwn ni'n stopio ar hyd y ffordd i archwilio'r byd naturiol ar hyd glannau'r afon. Bydd nifer o weithgareddau i'r teulu oll, a picnic braf yn y goedwig cyn i ni fwrw nôl am Aberystwyth erbyn tua 3yh.
Beth sydd wedi ei gynnwys
Wedi ei gynnwys yn y daith:
- Trosglwyddiad o Aberystwyth i Drawscoed
- Tywysydd profiadol
- Gweithgareddau ar hyd y daith
- Bathodyn a tystysgrif Archwilwyr Ystwyth ar ddiwedd y dydd
- Lluniaeth ysgafn yn ystod y dydd, a picnic i ginio
- Grwpiau bach (mwyafrif o 8)
- Lot o awyr iach a hwyl ar ac oddi ar y beic